top of page

Amdanom ni

Nod ALWL yw annog dealltwriaeth o ddatblygiad cyfraith Cymru, arferion cyfreithiol a'i chyfansoddiad.

 

Ein nod yw creu cysylltiadau rhwng aelodau Cymreig o’r gymuned gyfreithiol yn Llundain ac yng Nghymru ac annog dealltwriaeth ddyfnach o’r hyn sy’n digwydd, mewn termau cyfreithiol, yng Nghymru.

 

Mae'r association yn cynrychioli pob cangen o'r proffesiwn cyfreithiol, gan gynnwys y Farnwriaeth, y Bar, Cyfreithwyr a Gweithredwyr Cyfreithiol yn ogystal â chyfreithwyr academaidd, y sector cyhoeddus a masnachol mewnol.

 

Rydym wedi sefydlu a chefnogi ymddiriedolaeth elusennol, Ymddiriedolaeth Addysg Gyfreithiol yr Arglwydd Edmund Davies, sy’n lleoli myfyrwyr o Gymru sy’n dymuno cael profiad o’r proffesiwn cyfreithiol gyda chyfreithwyr yn Llundain. Gallwch ddarllen mwy am LEDLET ar ei wefan: www.ledlet.org.uk.

 

Sefydlwyd y gymdeithas yn 2011 gyda chyfarfod agoriadol ar 14 Chwefror 2011 yn Nhŷ’r Arglwyddi. Ers hynny rydym wedi cynnal darlith flynyddol, cinio blynyddol, derbyniad haf a rhaglen brysur o ddigwyddiadau cymdeithasol megis cwisiau tafarn, digwyddiadau diodydd anffurfiol, digwyddiadau Nadolig a theithiau i’r rygbi.

bottom of page