top of page

Amdanom Ni

Nod y Gymdeithas yw annog dealltwriaeth o ddatblygiad cyfraith Cymru.
 

Rydym yn anelu at feithrin cysylltiadau rhwng aelodau Cymraeg o'r gymuned gyfreithiol yn Llundain ac yng Nghymru ac i annog dealltwriaeth ddyfnach o'r hyn sy'n digwydd, mewn termau cyfreithiol, yng Nghymru.
 
Mae'r Gymdeithas yn cynrychioli bob cangen o'r proffesiwn cyfreithiol, gan gynnwys y Farnwriaeth, y Bar, Cyfreithwyr a Gweithredwyr Cyfreithiol, yn ogystal â'r sectorau cyhoeddus ac academaidd.

 

Cafodd y Gymdeithas ei sefydlu yn 2011 gyda chyfarfod cyntaf ar 14 Chwefror, 2011 yn NhÅ·'r Arglwyddi. Ers hynny rydym wedi cynnal darlith flynyddol, cinio blynyddol, derbyniadau haf a rhaglen brysur o ddigwyddiadau cymdeithasol megis cwisiau, diodydd anffurfiol, a theithiau i wylio rygbi.
 
Rydym wedi sefydlu ac yn cefnogi ymddiriedolaeth elusennol, yr Ymddiriedolaeth Addysg Cyfreithiol Arglwydd Edmund-Davies, sy'n gosod myfyrwyr o Gymru sy'n dymuno cael profiad o'r proffesiwn cyfreithiol gyda chyfreithwyr yn Llundain. Gallwch ddarllen mwy am LEDLET ar ei gwefan: www.ledlet.org.uk.

bottom of page