top of page

Ymddiriedolaeth Addysg Cyfreithiol Arglwydd Edmund-Davies

Mae Ymddiriedolaeth Addysg Cyfreithiol Arglwydd Edmund-Davies, neu LEDLET yn fyr, yn elusen annibynnol a sefydlwyd yn 2013 gan saith o ymddiriedolwyr gwirfoddol a dynnir o aelodaeth Cymdeithas Cyfreithwyr Cymraeg Llundain. Pwrpas LEDLET yw gwasanaethu pobl ifanc sy'n byw yng Nghymru neu sydd â chysylltiad â Chymru sydd â diddordeb mewn gyrfa yn y proffesiwn cyfreithiol.

 

Yn benodol, cafodd LEDLET ei sefydlu er mwyn sicrhau nad oes unrhyw person ifainc yng Nghymru yn dod i'r casgliad y bydd eu cefndir yn eu hatal rhag sicrhau gyrfa yn y gyfraith.

 

Yn y bon, mae nod LEDLET yn disgyn i ddau gategori:

 

1 . Yn gyntaf, mae LEDLET yn bwriadu sicrhau bod pob person ifanc yng Nghymru yn cael cyfle i, o leiaf, ystyried y posibilrwydd o gael gyrfa yn y gyfraith, boed fel cyfreithiwr, bargyfreithiwr neu weithredwr cyfreithiol;

2 . Yn ail, mae'n bwriadu darparu profiadau addysgiadol a fydd yn annog ac yn cefnogi'r rhai tynnwyd at yrfaoedd o'r fath yn eu hymdrechion.

 

Arwyddair LEDLET yw 'Anela'n Uchel' - ac yn gyffredinol dyna'r hyn y mae'n gobeithio ei annog pob person ifanc yng Nghymru i wneud.

 

Dysgwch fwy am LEDLET ar ei gwefan yma: www.ledlet.org.uk

 

bottom of page